Ysgol Plasdŵr - meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd
Mae grŵp o wrthdystwyr wedi meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd er mwyn pwyso am ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y datblygiad ym Mhlasdwr yn y brifddinas. Ym mis Medi 2018, dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw Thomas “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Fodd bynnag, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg. Derbyniodd y Cyngor ddeiseb gydag 876 llofnod arni hi’n galw am ysgol benodedig Gymraeg, gyda dim ond 15 o’r 180 o ymatebion i’w hymgynghoriad yn ffafrio agor ffrwd Saesneg ar y safle. Mae datblygiad Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas yn golygu adeiladu hyd at saith mil o dai dros y saith mlynedd nesaf. Yn yr ardaloedd hyn - Creigiau, Sain Fagan a Phentyrch - y mae rhai o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas, gyda bron i chwarter y boblogaeth yn siarad Cymraeg.